Burum

BURUM2016

Mae Burum yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol Cymru, wedi'i hailaddasu a'i hailddychmygu ar gyfer chwechawd jazz cyfoes.

Mae cerddoriaeth Burum yn cyfuno parch dwfn tuag at yr alawon gwerin gwreiddiol eu hunain â hyblygrwydd a dynamig cyfansoddi cerddoriaeth jazz ar y pryd. Mae alawon prydferth, melancolaidd yn cael eu perfformio ochr yn ochr ag unawdau tanbaid ac adrannau llanw dwys-wefreiddiol. Cafodd trydydd albwm Burum, Llef, ei ryddhau ym mis Mai 2016. Llef yw datganiad cerddorol mwyaf boddhaol a chydlynol Burum hyd heddiw, ac un sy'n arwydd o ddyfodiad band â sain unigryw ar y llwyfan rhyngwladol.

"Jazz ardderchog, arbennig iawn" – Jazz FM Radio

"Hynod, hynod brydferth' – BBC Radio Wales

Cyswllt: Tomos Williams +44(0) 7740464904
tomos.williams@gmail.com

http://burum.org
www.facebook.com/Burumjazz
@TwmBurum



Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Burum

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni