Balsamo Deighton

Balsamo-Deighton-Corridor

Cyfarfu Steve Balsamo a Rosalie Deighton dros ddeng mlynedd yn ôl yn stiwdio recordio'r cynhyrchwr o fri ac ennillwr gwobrau Grammy Martin Terefe, gan fondio dros eu cariad o gantorion/cyfansoddwyr 1970au, cerddoriaeth gwlad a chacen.

Sawl gwaith o gwmpas y byd mewn ffurfiau cerddorol amrywiol, gwnaeth llwybrau Balsamo Deighton groesi unwaith eto pan wnaeth Rosie gefnogi band gwlad/roc o fri Steve The Storys. Ar ôl dychwelyd o deithio gyda phobl megis Elton John, Santana a Joe Cocker, gofynnodd The Storys i Rosalie ymuno a helpu i ysgrifennu a recordio ar gyfer eu trydydd albwm, Luck.

Pan wnaeth The Storys penderfynu gorffen, cymerodd Steve a Rosalie hyn fel arwydd mai'r amser cywir oedd hi i wneud cerddoriaeth gyda'i gilydd.

Unfolding yw canlyniad eu holl ymdrechion, albwm sydd wedi denu adolygiadau hyfryd ac sydd bellach ar gael yn fyd-eang ar earMusic.

"Dosbarth meistr mewn cerddoriaeth roc, wedi’i harmoneiddio'n dynn yn null Arfordir y Gorllewin" – Sunday Express

"Mae'r lleisiau'n anffaeledig, y ddawn gerddorol yn nodedig, a'r potensial yn helaeth" – Maverick

"Byddwch yn canfod eich hun yn canu nerth eich pen ar ôl ychydig o wrandawiadau yn unig" – Hi-Fi News

"Wedi’i gynhyrchu mewn modd digon slic i droi bochau Lindsey Buckingham yn goch, gan amlygu gallu cerddorol celfydd a harmonïau sydd mor dynn mae braidd Rizla rhwng eu lleisiau" – Mojo

Cyswllt:

Rheolaeth: John Waller Management & Marketing
john@johnwaller.net

Asiant Bwcio: Allen Jacobs
allen.jacobs@talktalk.net

www.balsamodeighton.com
www.facebook.com/BalsamoDeighton/
@balsamodeighton

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Balsamo Deighton

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni