Alun Gaffey

alungaffey_YSelar

Yn 2016 fe wnaeth Alun Gaffey (cyn-gitarydd Race Horses) ryddhau ei albym cyntaf fel artist unigol ar label Sbrigyn Ymborth. Casgliad o ganeuon a recordiwyd yn stiwdio Tŷ Drwg dan arweiniad y peiriannydd Frank Naughton. O ran sain ac arddull mae’n albwm tra gwahanol i gynnyrch ei hen fandiau.

Mae Alun wedi bod yn perfformio’r deunydd newydd mewn gigs gyda’i grŵp o gerddorion profiadol ‘Ultra-Dope’.

Fe gaeth yr albym ei enwebu ar gyfer wobr Albym Gymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod genedlaethol yn mis Awst, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddiweddar hefyd.

Mae Alun wedi cychwyn gweithio ar ei ail albwm. Ewch i www.alungaffey.com am fwy o wybodaeth

Cyswllt: Alun Gaffey
+44 (0) 7933246194
alun_gaffey@hotmail.co.uk

Label: Aled Hughes
+44 (0) 7890148241
label@sbrigynymborth.com

www.alungaffey.com
@alungaffey

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Alun Gaffey

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni